Numbers 28

Yr offrymau dyddiol

(Exodus 29:38-46)

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Rho'r gorchymyn yma i bobl Israel: ‘Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich offrymau i mi ar yr adegau iawn. Mae'r offrymau yma sy'n cael eu llosgi ar yr allor fel bwyd sy'n arogli'n hyfryd i mi.’ 3Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma'r offrwm sydd i gael ei losgi i'r Arglwydd: Dau oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw i'w cyflwyno'n rheolaidd fel offrwm i'w losgi'n llwyr. 4Rhaid i'r oen cyntaf gael ei gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi. 5Mae pob oen i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd. 6Mae'r offrwm rheolaidd yma i gael ei losgi'n llwyr. Cafodd ei sefydlu ar Fynydd Sinai, yn offrwm fyddai'n arogli'n hyfryd i'r Arglwydd. 7Ac mae offrwm o ddiod i fynd gydag e – litr am bob oen. Mae'r cwrw haidd yma i gael ei dywallt yn offrwm i'r Arglwydd yn y cysegr.

8“‘Yna mae'r ail oen i gael ei offrymu pan mae'n dechrau nosi. Mae'r un offrwm o rawn ac offrwm o ddiod i fynd gydag e. Mae hwn eto i gael ei losgi'n llwyr, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r Arglwydd.

Offrwm y Saboth

9“‘Yna ar y Saboth: Dau oen blwydd oed arall heb ddim byd o'i le arnyn nhw, a dau gilogram o'r blawd gwenith gorau yn offrwm o rawn, wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, a'r offrwm o ddiod sydd i fynd gydag e hefyd. 10Mae'r offrwm yma i gael ei losgi bob Saboth, yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sydd i gael ei losgi a'r offrwm o ddiod sy'n mynd gyda hwnnw.

Yr offrymau ar ddiwrnod cyntaf pob mis

11“‘Ar ddiwrnod cyntaf pob mis rhaid rhoi'r canlynol yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r Arglwydd: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw. 12Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram gyda pob tarw, dau gilogram gyda'r hwrdd, 13a cilogram gyda pob un o'r wyn. Mae pob un yn offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr, ac yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r Arglwydd. 14Yn offrwm o ddiod gyda nhw: dwy litr o win gyda pob tarw, litr a chwarter gyda'r hwrdd, a litr gyda pob un o'r ŵyn.

“‘Dyma'r offrwm sydd i'w losgi'n rheolaidd bob mis drwy'r flwyddyn. 15Wedyn rhaid i un bwch gafr gael ei gyflwyno i'r Arglwydd yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrwm o ddiod sy'n mynd gyda hwnnw.

Offrymau'r Pasg a Gŵyl y Bara Croyw

(Lefiticus 23:5-14)

16“‘Mae Pasg yr Arglwydd i gael ei ddathlu ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
28:16 mis cyntaf Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan), sef mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill.
b
17Yna mae Gŵyl arall c yn dechrau ar y pymthegfed o'r mis. Dim ond bara sydd heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta. 18Ar y diwrnod cyntaf rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. 19Rhaid i chi gyflwyno rhodd i'r Arglwydd bob dydd, sef offrwm i'w losgi'n llwyr – dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw. 20Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, 21ac un cilogram ar gyfer pob oen. 22Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw. 23Mae'r rhain i gyd yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi'n llwyr bob bore. 24Maen nhw i gael eu hoffrymu bob dydd am saith diwrnod, yn fwyd i'w losgi i'r Arglwydd, ac sy'n arogli'n hyfryd iddo. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrymau sy'n cael ei llosgi'n rheolaidd, a'r offrymau o ddiod sy'n mynd gyda nhw. 25Yna ar y seithfed diwrnod rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli eto. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.

Offrymau Gŵyl y Cynhaeaf

(Lefiticus 23:15-22)

26“‘Ar ddiwrnod cynnyrch cyntaf y cynhaeaf, pan fyddwch yn dod a'r offrwm o rawn newydd i'r Arglwydd yn ystod Gŵyl y Cynhaeaf
28:26 Gŵyl y Cynhaeaf Hebraeg, “Gŵyl yr Wythnosau”
, rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
27Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r Arglwydd, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. 28Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, 29ac un cilogram ar gyfer pob oen. 30Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw. 31Mae'r rhain i gyd, gyda'u hoffrymau o ddiod, yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi'n llwyr, a'r offrwm o rawn sy'n mynd gyda hwnnw. A gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le ar yr anifeiliaid sy'n cael eu hoffrymu.

Copyright information for CYM